Lleoliad y cyfarfod:
Zoom
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
26 Awst 2020
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn drwy gynhadledd fideo. Ar
ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, mae'r Llywydd wedi
penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D,
yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddulliau
electronig.
Mae'r
Llywydd hefyd yn hysbysu, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, fod
y cyhoedd wedi eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y Cyfarfod
Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd
y cyfarfod yn parhau i gael ei ddarlledu'n fyw a bydd cofnod o'r
trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd
arferol
1 Datganiad gan y Prif Weinidog - Coronafeirws (Covid-19)
(45 munud)
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân: (cyfanswm o 30 munud)
2 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020
NDM7368 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Gorffennaf 2020.
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
3 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020
NDM7369 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 07 Awst 2020.
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
4 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020
NDM7370 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Awst 2020.
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
5 Cyfnod pleidleisio
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 15 Medi 2020